Ar gyfer hyrwyddwyr

Witness – Portreadau o Fenywod sy’n Dawnsio

Ar gael ar gyfer y DU ac i deithio dramor o fis Gorffennaf 2013 ymlaen.. 

Mae Witness yn ddigwyddiad dawns sinematig tri sgrin ar raddfa fawr. Mae’r olygfa banoramig yn caniatau i’r cyffredin a’r anghyffredin fod yn eiconig; mae’r perfformwyr yn trwytho eu gofod gyda’u presenoldeb a’u lleisiau, ond yr agosatrwydd yn parhau.

Symud sy’n darparu prif yrriant Witness, wrth i ni ddilyn tri o ddawnswyr a’u gweld yn creu eu portreadau coreograffaidd. Mae natur y gwaith yn croesi ffiniau nifer o ffurfiau celfyddydol ac yn defnyddio ffilm, dawns a’r celfyddydau gweledol. Yn greiddiol i’r gwaith yw’r portreadau personol a’r mewnwelediadau oddi wrth y dawnswyr amdanynt eu hunain a sut beth yw hi i gael eu gweld a’u tafoli gan greu awyrgylch agos atoch a chyswllt personol gyda’r gynulleidfa.


“”Roedd portreadu yn offeryn defnyddiol er mwyn cael mynediad at y themâu sydd o ddiddordeb i mi: y ffordd y cynrychiolir menywod mewn celfyddyd a dawns yn benodol a’i ffin rhwng perfformio a pheidio â pherfformio a waelodir gan onestrwydd wrth berfformio. Y themâu eraill a gafodd eu meithrin yn ystod y broses oedd: y prydferthwch o roi cynnig arni, paratoi a siwrnai seicolegol pob un o’r dawnswyr. Mae’r ffilmiau yn gosod ffin denau rhwng yr hyn sy’n bodoli go iawn a’r hyn a berfformir ac fe holir sut brofiad yw hi i gael eich gwylio ynteu’ch harddangos.”.”  Jo Fong

Mae’r digwyddiad hwn, y mae angen tocyn ar ei gyfer, yn para am 60 munud. Addasir gofodau arddangos er mwyn croesi’r ffin rhwng profiad theatr a phrofiad oriel a gellir gwneud trefniadau arbennig sy’n addas ar gyfer y rhelyw o ofodau arddangos a lleoliadau. Yn ogystal mae nifer o becynnau datblygu cynulleidfaoedd ac estyn allan y gellir eu haddasu ar gael ochr yn ochr â llwyfannu ‘Witness.’


”Gwaith bendigedig o brydferth, sy’n ysbrydoli, yn cyffwrdd â rhywun ac yn ennyn meddwl pellach ynghylch cynifer o bethau – ynghylch dawns, ynghylch menywod, ynghylch bod o flaen camerâu … fe hoffwn dreulio amser yn ystyried a myfyrio ar ddyfnder y perfformiad hwn! Diolch.’.’ Alison Richardson, Aelod o’r gynulleidfar

Cefnogir Witness gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Rubicon Dance, Y Tŷ Dawns (Caerdydd), Canolfan Gelfyddydol Chapter, In a Supporting Role a Coreo Cymru.

Cynulleidfaoedd

Mae Witness yn yn waith sydd o fewn gafael amrywiol gynulleidfaoedd.

Mae’r gwaith yn apelio at y rheini sydd yn diddori yn y celfyddydau gweledol, dawns, mewnywod, perfformiad, creadigrwydd,

theatr a ffilm.

Mae Witness yn addas ar gyfer rheini sydd dros 12 mlwydd oed, er y mae’n bosib y bydd rheini yn dymuno ystyried addasrwydd

y gwaith drostynt eu hunain.

Mae’r sioe yn cynnwys ychydig iawn o iaith cymharol anweddus.

(Am ragor o wybodaeth gweler y pecyn) marchnata)


Pecynnau estyn allan a datblygu’r gynulleidfa

Rydym wedi ein hymrwymo ein hunain i gysylltu â chynulleidfaoedd ac i feithrin profiadau i rannu’r gwaith.

Mae Jo Fong yn darparu amser cyswllt personol trwy nifer o ddigwyddiadau estyn allan unigryw sydd ar gael i’r cyhoedd.

  • Sgyrsiau ynteu drafodaethau cyn ynteu wedi’r perfformiad
  • Trafodaethau gyda grwpiau penodols
  • dawns a theatr Dosbarthiadau a gweithda – Gweithdai creadigol yn seiliedig ar greu Witness
  • IYmholiadau i mewn i sgorau byrfyfyr
  • Cyfnodau ar gyfer datblygu’n broffesiynol
  • Cyfnodau ar gyfer meithrin doniau coreograffig
  • IProsiectau perfformiad cymunedol dwys
  • Y Gynulleidfa (perfformiad arbrofol rhyngweithiol yn ystod cyfnod preswyl)
  • Gall cyfnodau o brofiad preswyl gynnwys digwyddiadu megis y rhai uchod a chael eu cynnal yn y lleoliad ynteu mewn lleoliadaucymunedol cysylltiedig..
  • Gall pecynau gynnwys gweithio gyda grwpiau megis:
  • Grwpiau dawns ynteu theatr sy’n gysylltiedig â lleoliad ynteu asiantaethau lleol
  • Grwpiau arbennigol e.e grwpiau o rai dros 55 mlwydd oed, pobl ifanc, anabl, dawns, theatr, menywod a grwpiau anghenionarbennigs
  • Artistiaid gweledol, ymarferwyr ffilm a ffotograffwyr
  • Myfyrwyr Coleg a Phrifysgol
  • Artistiaid sy’n gyfoedion

Am ragor o wybodaeth ynghylch Y Gynulleidfa ynteu ddigwyddiadau eraill y gellir cymryd rhan ynddynt cysylltwch â jo@jofong.com


Marchnata

Medrwn ddarparu cefnogaeth i’ch sefydliad gyda marchnata’r cyflwyniadau

Rydym yn darparu pecynk marchnata mewnol manwl ar gyfer y gwaith sy’n darparu gwybodaeth ynghylch:

  • Y sefydliad
  • Jo Fong
  • Witness – Portreadau o Fenywod sy’n Dawnsio
  • Bywgraffiadau’r rheini a fu’n cyd-weithio ar y prosiect
  • Deunyddiau hyrwyddo pellach:
  • Enghraifft o Ddatganiad i’r Wasg
  • Delweddau o safon uchel
  • Rhaglenni
  • Deunydd fideo hyrwyddo
  • Enghreifftiau ysgrifenedig ar gyfer denuyddiau gwerthu
  • Taflenni wedi eu hargraffu
  • Cwestiynau a holir yn fynych
  • Manylion ar gyfer marchnata’r cwmni ar-lein
  • E-daflen
  • Cyfryngau cymdeithasol

Ynghyd â’r pecynnau estyn allan, ein nod yw cyflwyno’r gynulleidfa i rychwant eang, ond wedi ei gyd-lynu, o ffurfiau celfyddydol.


Ar y ffordd 

Addasir gofodau arddangos er mwyn croesi’r ffin rhwng profiad theatr a phrofiad oriel a gellir gwneud trefniadau arbennig sy’n

addas ar gyfer y rhelyw o ofodau arddangos a lleoliadau.

Lleiafswm y lled sydd ei angen ar gyfer arddangos yw 10 metr. Ar gyfer llwyfannau llai, tynnir seddau o’i lle er mwyn creu’r lled a

gellir darparu meinciau megis y rhai a geir mewn orielau.

Nodwch os gwelwch yn dda y gall y gofynion technegol amrywio yn dibynnu ar natur y gofod arddangos.

Mae’r sioe yn teithio gyda rheolwr technegol a chyfarwyddwr.

Mae’r rheolwr technegol yn gosod a threfnu’r gofod, yn rhedeg y sioe ac yn gyfrifol am yr ymadawiad.

Mae’r cyfarwyddwr ar gael i oruchwylio’r gosod ac i ddarparu’r gwaith estyn allan a drefnwyd ymlaen llaw.

Rydym yn teithio gyda:

  • Tair sgrin 4m o led a adeiledir yn y lleoliad.
  • Rhedir y sioe oddi ar gyfrifiadur a thrwy pen triphlyg ac rydym yn ddarparu ceblau VGA.
  • Os oes angen gellir darparu seddau tebyg i’r rhai a geir mewn orielau.
  • 3 taflunydd o safon uchel
  • Anghenion technegol ar gyfer gofodau mewn Theatrau ac Orielau:
  • Ardal wedi ei thywyllu’n llwyr
  • Y gallu i grogi 3 taflunydd.
  • Sustem sain o safon uchel.
  • Golau syml ar gyfer yr ardal sydd â seddau.
  • Modd i grogi tair sgrin 4m o led y gwnawn ni eu darparu a’u hadeiladu yn y lleoliad.
  • Cynorthwydd technegol ar gyfer y gosod a’r ymadael. Gall technegydd trigiannol redeg y sioe ar gyfer cyfnodau hwyach o berfformiadau, ar gyfer un ynteu ddau berfformiad fe wnawn ni ddarparu ein technegydd ein hun. Mae angen mynediad o 10am ar gyfer sioe gyda’r nos er mae’n well gennym gael rhagor o amser.
  • Am ragor o fanylion a manylion technegol pellach cysylltwch gyda technicalmanager@jofong.com

Ffïoedd

Ar gyfer pob gosodiad o Witness fe luniwn becyn manwl yn cynnwys nifer y dangosiadau, cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith a

rhaglen estyn allan.

Bydd pob pecyn yn cael i addasu ar gyfer y lleoliad ac mae’r ffïoedd yn cael eu pennu trwy drafodaeth.

Rydym yn barod iawn i drafod sut y gallai’r gwaith hwn fod yn rhan o’ch rhaglen. Cysylltwch os gwelwch yn dda â chynhyrchydd

Jo Fong, David Wilson  er mwyn cael pris am y gwaith.


Cyswllt Archebu

Cynhyrchydd David Wilson of In a Supporting Role.

E-bost David Wilson  | Tel  +44 (0)29 21 250566


Credits:
Choreographer and Director: Jo Fong
Dancers: Ino Riga, Eeva-Maria Mutka
& Annabeth Berkeley
Filmmakers & Editing: Filipe Alcada & Dawn Collins
Music Giovanni Battista Pergolesi
Photo Credit: Filipe Alcada

Video: full length available on request