Neither Here Nor There

 

Jo Fong a Sonia Hughes

Neither Here Nor There [Heb Fod Fan Hyn na Man Draw]

Bydd Sonia a Jo yn cynnal cyfres o sgyrsiau sy’n digwydd dros chwe munud.

Eddie Ladd a Sara McGaughey fydd yn arwain y perfformiadau yn Gymraeg.

Os bydd y tywydd yn caniatáu, bydd taith gerdded, sgwrs, clonc, bwrdd, cadeiriau. Dewch i mewn. Eisteddwch.

Bydd unawdau, deuawdau a pherfformiadau ensemble.

Mae cymhlethdod yn cymryd amser, mae’n gofyn am leisiau amryfal, sawl lefel o arbenigedd ac amynedd yn y dinod.

Ysbrydolwyd y prosiect hwn gan ymchwil Frank Bock a Katye Coe.


Ynglŷn â’r artistiaid

Mae Jo a Sonia wedi cydweithio ar sawl prosiect gan gynnwys Wallflower ac Entitled i gwmni Quarantine ac yn ddiweddar ymchwil i Ways of Being Together a The Kitchen Table fel rhan o Brosiect Gwobr Cymru Greadigol Jo yn 2017. Cyfrannodd Jo a Sonia at gydgynhyrchiad newydd Theatr Genedlaethol Cymru a Quarantine ar gyfer Gŵyl y Llais.

Mae Sonia Hughes yn awdur ac yn berfformwraig. Mae hi wedi cydweithredu gyda dawnswyr, cyfarwyddwyr a’r artistiaid gweledol Darren Pritchard, Mark Whitelaw, Mem Morrison, Max Webster, Humberto Velez, Fiona Wright ac Eggs Collective. Mae ei gwaith helaeth fel awdur gyda Quarantine yn cynnwys y cynhyrchiad arobryn Susan and Darren, y Summer. Autumn. Winter. Spring epig a’r enillydd gwobr What is the City But the People? ar gyfer Gŵyl Ryngwladol Manceinion 2017.


“Menter ffyddiog” – Cylchgrawn CCQ

“Profiad prin” – Art Scene in Wales


Nodiadau cychwynnol ar gyfer y prosiect

RHAI PROBLEMAU

1. Mae sŵn atsain ar led. Lefel o bryder sy’n mynd yn uwch neu’n dawelach yn dibynnu ar ba mor agos ydych chi i’r achos.

Yn rhyfedd, y rheiny ohonom sy’n gymharol bell i ffwrdd o’r achos sy’n ei chael hi’n anodd delio ag ef. Rydym fel y galarwyr mewn angladd sydd rywsut yn llefain yn uwch, er nad oeddem yn adnabod yr ymadawedig cystal.

2. Cyflwynir deuoliaethau i ni, maen nhw’n haws i’w rheoli, gellir ateb y cwestiwn gydag ie neu na, ond gwyddwn o’n bywydau ein hunain ei fod yn llawer mwy cymhleth na hynny. Mae cymhlethdod yn cymryd amser, mae’n gofyn am leisiau amryfal, lefelau arbenigedd amryfal, sgwrs hir iawn. Nid anogir hyn gan ddulliau cyfathrebu cyfoes o negeseuon testun i twitter.

3. Rydych chi’n un person bach. Beth allwch chi ei wneud? Dydych chi ddim yn gwybod beth i wneud? Ond mae gennych fywyd cyfan, ni waeth pa mor hir ydyw.

4. Nid yw iaith yr hyn rydym wedi gofyn amdano wedi’i ffurfio eto, mae hen eiriau a chysyniadau wedi’u tanseilio neu’n swnio’n wag nawr, gallem ffurfio gwell syniadau wrth siarad. Hwyrach na allwn roi enw iddynt eto, efallai o rannu’r un lle, bydd gennym deimlad amdanynt o leiaf, mae’n bosibl y bydd awyrgylch wedi’i greu.

5. Mae problem o ran graddfa. Mae artistiaid yn aml yn ceisio gwneud rhywbeth mawr a phwysig neu fân ac esoterig. Beth yw graddfa’r darn hwn? Beth yw’r uchelgais ynddo? Beth yw ei raddfa o ran amser? Mae gan fynydd raddfa amser wahanol iawn o gymharu â chylionyn Mai.

RHAI PETHAU Y GALLEM NI EU GWNEUD

Gadewch i ni siarad yn hwy. Gadewch i ni gael gwybod beth ydym wir yn ei feddwl, heb ymyrraeth. Os oes llawer o bobl, yna mae’n rhaid i ni ddysgu gwrando ar bobl. Efallai gwrando am gyfnod hir, i brosesu pethau heb roi sylwadau. Gwrando ar rywun. Mae’r syniad o gael mwy nag un ar un yn golygu bod rhaid i chi gymryd rhan mewn gwrando a phrosesu am gyfnod hwy, bod rhaid i chi fyfyrio ar eich ymateb eich hun a phenderfynu ydyw’n parhau i fod yn berthnasol ei ddweud neu ydy’r sgwrs wedi symud ymlaen, efallai bod eich barn dros dro wedi newid, meddalu, caledi, mynd yn gliriach.

Rydych chi’n un person bach, ond mae gennych fywyd cyfan, ni waeth pa mor hir ydyw. Mae gennych allu, efallai bod angen tyfu, hyd yn oed hogi’r gallu hwnnw. Nid yw’r dasg sy’n cael ei chyflawni’n glir eto, efallai ei bod yn rhywbeth i wneud â chyfiawnder. Neu garedigrwydd. Efallai.


Crëwyd gyda chyfraniadau gan yr artistiaid Shamshad Khan, Lisa Mattocks, Kate Daley, James Monaghan, Heloise Godfrey-Talbot, Gareth Clark a Rabab Ghazoul.


Yn Neither Here Nor There [Heb Fod Fan Hyn na Man Draw], mae Jo a Sonia’n gofyn cwestiynau am le, ble rydym yn byw, o ble ddaethom ni, o ble y daw’n tadau…trafodwn broblemau anesboniadwy enfawr y byd ac yn yr un modd, ein cartref, ein cymdogion, ffensys ein gerddi. Mae’r gwaith yn annog y theatr agos atoch o glywed un unigolyn ac ar hyd y sioe, teithiwn drwy sawl llais, mae’r gynulleidfa’n rhan ohono ac rydym yn derbyn sawl safbwynt, sawl bywyd. Sut gallwn ni fyw gyda’n gilydd? Mae’n ddoniol, yn agos atoch, yn gynnes, yn wleidyddol, ychydig yn welw, grymus, di-rym ac amyneddgar. Derbyniwyd y gwaith yn agored, mae’r cynulleidfaoedd wedi’i chael yn ddoniol ac eto maen nhw’n tyrchu’n ddwfn ac yn onest yn eu hymatebion ac yn hael wrth wrando. Mae’r naratif yn newid yn anochel o un sioe i’r llall ac mae eiliadau Jo a Sonia’n cael eu gwneud yn fyrfyfyr dros rai cwestiynau llywio allweddol.

Maen nhw’n gosod y rheolau ac fel ensemble gyda’r gynulleidfa, chwaraewn y gêm. Mae’n swnio’n syml ond fel y mae Jo a Sonia’n crybwyll ar ddechrau eu sioe “Mae cymhlethdod yn cymryd amser”.


Heb Fod Fan Hyn na Man Draw Facebook 


Comisiynwyd Neither Here Nor There [Heb Fod Fan Hyn na Man Draw] gan Peilot a LAUK Diverse Actions.

Mae Diverse Actions yn fenter Live Art UK sy’n hyrwyddo uchelgais diwylliannol amrywiol, rhagoriaeth a thalent yn Live Art. Mae Diverse Actions yn adeiladu ar rôl hollbwysig Live Art fel ymarfer arloesi artistig a lle i fynegi syniadau cymhleth o hunaniaeth ddiwylliannol.



Print

jologoschapter

Credits:
Image 1 by: Soloman Hughes
Image 2 by: Lydia Crisafulli
Image 3 by: Avi Allen
Image 4 by: Benjamin J Borley
Created by: Jo Fong & Sonia Hughes

Neither Here Nor There began at Experimentica Festival in 2018 at Chapter, Cardiff.

2022

Gateshead
Gift Festival 2022

2021

Cardiff Bay
Festival of Voice
6th and 7th November
1pm English
4.30pm Cymraeg
BSL interpreted performance at 1pm 7th Nov

Sweden
Vitlyke Centre for Performing Arts,
2nd and 3rd October

Findhorn, Scotland
Dance North
14th & 15th August



2019

CAN Festival, London
LondonCCC

Artsadmin
Toynbee Hall
Photographers Gallery

Manchester
Centre for Chinese Contemporary Arts

Chepstow
Drill Hall

Swansea
Volcano Theatre

Exeter
Presented by Scare the Horses

Cardiff
Chapter

Harstad, Norway
Artic Arts Festival

Furnace
Capel Y Graig

Agora
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Llanrwst

Summerhall
Edinburgh

Bristol
In Between Time Summit

2018
Cardiff
Experimentica Festival,
Chapter, Cardiff.



Reviews:

Culture Colony
ScotsGay
The Student Newpaper
Arts Scene in Wales
Exeunt Magazine